Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Gorffennaf 2019
Amser:
12.45 -
16.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5461
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Simon Jones, Llywodraeth Cymru Andy Falleyn, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Alan Brace, Llywodraeth Cymru Helen Arthur, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
1.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd yr Aelodau i drafod yr adroddiad drafft diwygiedig y tu allan i'r Pwyllgor.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ar FyNgherdynTeithio ac Addasiadau Tai ac ar y taliadau arbennig a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r costau yr aed iddynt ar Ffordd Liniaru'r M4.
4.2 Cytunodd Andrew Slade i ddarparu'r canlynol:
· Cyfanswm y gost net ar gyfer datblygiad yr M4 - gan restru fesul eitem gyfanswm costau’r datblygiad ynghyd â’r costau dirwyn i ben ac unrhyw gostau cysylltiedig eraill, namyn unrhyw elw a wnaed o werthu’r eiddo a gaffaelwyd, incwm arall neu gostau a adenillwyd.
· Copïau o Adroddiad Dewisiadau Amgen a awgrymwyd gan Wrthwynebwyr ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd (Mawrth 2017)
· Dadansoddiad o'r gwaith twnelu arfaethedig o dan Lefelau Gwent, sut y cafodd y costau hyn eu meincnodi, a pha ganran oeddent o gostau cyffredinol y dewisiadau eraill
· Yr amserlen ar gyfer gwaredu'r eiddo sydd ym meddiant Llywodraeth Cymru
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
5.2 Cytunodd Dr Andrew Goodall y byddai yn:
· Rhoi'r manylion o'r ymarfer recriwtio allanol diweddar i benodi Cyfarwyddwr Trawsnewid BIPBC
· Rhoi disgrifiad, ynghyd ag enghreifftiau, o'r hyn sydd wedi cael ei ariannu fel rhan o'r Gronfa Drawsnewid
5.3 Oherwydd cyfyngiadau amser, dywedodd y Cadeirydd y byddai'n ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda nifer o gwestiynau am y defnydd o staff asiantaeth yn GIG Cymru.
6.1 Cytunwyd ar y cynnig a oedd hefyd yn cynnwys y cyfarfod ar 16 Medi 2019.
7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.